Neidio i'r prif gynnwys

Gwasanaeth newydd yw hwn - rhowch eich adborth (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Iaith bresennol: Cymraeg English

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan https://accounts.landregistry.gov.uk (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Cofrestrfa Tir EF sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun lithro oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd yn anelu at wneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o'r wefan hon yn hollol hygyrch:

  • efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad at yr holl wybodaeth mewn cynllun teitl PDF gyda darllenydd sgrin
  • ni allwch gael mynediad at yr holl gynnwys mewn cofrestr Ddigidol gyda'r bysellfwrdd yn unig
  • mae gosodiad rhai tudalennau'n newid wrth ddiffodd Rhaeadru Dalennau Arddull (CSS)
  • gall rhannau o god y wefan achosi gwrthdaro yn y porwr a chyda thechnoleg gynorthwyol

Cysylltwch â ni os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol, gan gynnwys:

  • PDF hygyrch
  • print bras
  • hawdd ei ddeall
  • recordiad sain
  • braille

Ffôn

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)

Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)

Darllen am gostau galwadau(mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl fyddar, sydd â nam ar y clyw neu sydd â nam ar y lleferydd hefyd.

Byddwn yn ymchwilio i'ch cais ac yn dod yn ôl atoch mewn 5 niwrnod.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Rydym yn ymwybodol bod label yn bresennol ond ddim yn weladwy ar rai tudalennau yn y gwasanaeth, felly efallai nad yw'n gwbl glir i'r defnyddiwr yr hyn sydd angen iddo ei fewnbynnu i'r maes hwn. Mae hyn yn broblem sy'n methu yn erbyn maen prawf llwyddiant 2.4.6 Penawdau a Labeli (AA) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.

Rydym yn bwriadu unioni'r materion hyn trwy neilltuo amser ar gyfer atebion gydol ein cylch datblygu safonol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ni ddylai fod unrhyw gynnwys arall a fyddai'n achosi problemau hygyrchedd yn y gwasanaeth hwn.

Baich anghymesur

Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd. Gellir gweld cynnwys nad yw'n cydymffurfio â'r canllawiau mewn adrannau eraill o'r datganiad hwn.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn parhau i brofi pob tudalen yn y gwasanaeth hwn a byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn pan fydd unrhyw beth yn newid.

Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael ar https://accounts.landregistry.gov.uk/ (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Profwyd y wefan hon ar 29 Mawrth 2021. Cynhaliwyd profion gan dÏm archwilio mewnol annibynnol gan ddefnyddio cyfres brawf bwrpasol.

Byddwn yn parhau i brofi ein gwefan gyda defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Chwefror 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 12 Awst 2022.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid:

Ar-lein

Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar-lein i anfon neges atom (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Ffôn

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)

Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)

Darllen am gostau galwadau (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).

Cyfeiriad

HM Land Registry Citizen Centre,
PO Box 74,
Gloucester,
GL14 9BB

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (mae'r cyswllt yn agor mewn tab newydd).